About us
Sefydlwyd Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref Ceredigion (sef HAHAV) yn 2014 gan grŵp o wirfoddolwyr, a hynny ar gyfer y gymuned leol yng Ngheredigion. Ymateb oedd hynny i’r angen oedd bron yn llethol am gymorth ymhlith pobl â salwch cronig sy’n cyfyngu ar eu bywyd, eu gofalwyr a’u teuluoedd. I ddechrau, dim ond yn y gymuned yr oedden ni’n rhoi’r cymorth. Fodd bynnag, daeth yn amlwg i ni fod rhai pobl eisiau rhywle lle gallen nhw ddod i gysylltiad ag eraill, cael cymorth gan bobl mewn sefyllfa debyg a chymryd rhan mewn gweithgareddau i helpu i wella ansawdd eu bywyd. Yn 2019 agorwyd ein Canolfan Byw’n Dda ym Mhlas Antaron, Aberystwyth. Dyw’r rhan fwyaf o’n gwasanaethau ddim ar gyfer unrhyw gyflwr arbennig, er ein bod ni’n cynnal rhai gweithgareddau grŵp ar gyfer cyflyrau penodol.
Gwirfoddolwyr yw calon ein helusen o hyd. Maen nhw’n rhoi miloedd o oriau bob blwyddyn i gefnogi ein tîm bach o staff i gynnig gwasanaethau megis Cymorth yn y Cartref, Gwasanaethau Galar a Gweithgareddau Byw'n Dda yn ogystal â chreu incwm. Mae eu gwaith yn trawsnewid bywydau pobl. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n cefnogi llawer o bobl sydd â salwch sy’n cyfyngu ar eu bywyd i wneud y gorau o’r amser gwerthfawr sydd gyda nhw ar ôl.
Mae gennym siop elusen brysur yn 14 Heol y Wig, Aberystwyth a Warws Celfi yn Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon a dyma ein prif ffynonellau ariannu ochr yn ochr â rhoddion a gweithgareddau codi arian eraill.
Hospice at Home Volunteers Ceredigion (known as HAHAV), was created by a group of volunteers in 2014, for the local Ceredigion community, in response to almost overwhelming need for support amongst people with chronic, life-limiting illness, their carers and families. Initially, support was solely via outreach within the community. However, we learned that some people wanted a place where they could connect with others, access peer support and participate in activities to help maximise their quality of life. In 2019 we opened our Living Well Centre, at Plas Antaron in Aberystwyth. Our intervention is not specific to any particular condition, although we do run some targeted group activities.
Volunteers remain at the heart of our charity, gifting thousands of hours each year to support our small staff team to deliver services such as Home Support, Bereavement Services and Living Well Activites as well as generating income; with transformational impact. Together, we support many people with life-limiting illnesses to make the most of the precious time they have left.
We have a busy charity shop at 14 Pier Street, Aberystwyth and a Furniture Warehouse in Glanyrafon Industrial Estate and these are our main sources of funding alongside donations and other fundraising activities.